Lefel: 4
Cod UCAS: GKA0
Hyd: Rhan-amser (3 blynned, 8 awr yr wythnos am 2 flynedd ynghyd a lleoliad).
Gofynion Mynediad: TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch a 120 pwynt ar Lefel A neu gyfwerth. Gall ymgeiswyr aeddfed gael eu derbyn heb gymwysterau ffurfiol, yn amodol ar gyfweliad.
Disgrifiad o’r Cwrs: Cynlluniwyd y cwrs i roi sylfaen eang o wybodaeth technoleg gwybodaeth yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol a phroffesiynol. Mae ganddo gyfeiriad ymarferol cryf ac mae’n cynnwys dysgu seiliedig ar gyflogaeth. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, sesiynau tiwtorial a sesiynau ymarferol gyda rhai modiwlau ar gael ar-lein fel y medrwch astudio ar amser ac mewn lle sy’n addas i chi. Bydd gan bob model aseiniadau wedi’u hasesu a bydd gan rai arholiad ar y diwedd.
Yr hyn y byddwch yn ei Astudio:
I ennill y cymhwyster, ym mlwyddyn 1 byddwch yn astudio:
Dadansoddi a dylunio systemau gwybodaeth 1
Dylunio a datblygu gwefannau
Systemau cyfrifiadur a chysyniadau rhwydweithio
Datblygu Cymwysiadau Busnes.
Blwyddyn 2:
Dadansoddi a dylunio systemau gwybodaeth 2
Datrys problemau ar gyfer cyfrifiadureg
Datblygu cymwysiadau rhyngrwyd cyfoethog
Datblygu cronfa ddata
Gallwch adael y cwrs ar y pwynt yma gyda HNC mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, neu barhau i drydedd flwyddyn y Radd Sylfaen drwy gwblhau astudiaeth annibynnol mewn Cyfrifiadureg a phrosiect dysgu seiliedig ar waith.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa: Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i radd anrhydedd.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

