Lefel: 4
Cod UCAS: I’w benderfynu
Hyd: Rhan-amser
Gofynion Mynediad: TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch a 120 pwynt ar lefel A neu gyfwerth. Medrir derbyn ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol, yn amodol ar gyfweliad.
Disgrifiad o’r Cwrs: Cynlluniwyd y cwrs i roi sylfaen eang o wybodaeth technoleg gwybodaeth yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol a phroffesiynol. Mae ganddo gyfeiriad ymarferol cryf ac yn cynnwys dysgu seiliedig ar gyflogaeth. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, sesiynau tiwtorial a sesiynau ymarferol gyda rhai modiwlau ar gael ar-lein fel y medrwch astudio ar amser ac mewn lle sy’n gweddu i chi. Bydd gan bob modiwl aseiniadau a asesir a bydd gan rai arholiad ar y diwedd.
Beth fyddwch yn ei Astudio: I ennill y cymhwyster Gradd Sylfaen, byddwch yn astudio: 100 credyd ar Lefel 4, gan ddewis o blith y modiwlau dilynol:
Gairbrosesu Uwch, Taenlenni Uwch, Cronfeydd Data Uwch, Cyflwyniadau Uwch, Datblygiad Proffesiynol a Sgiliau Busnes, Datblygu Cymwysiadau Rhyngrwyd, Cymwysiadau Busnes, Datblygu Systemau Gwybodaeth, Datrys Problemau ar gyfer Cyfrifiadureg a Chysyniadau Systemau Cyfrifiadur a Rhwydweithio.
80 credyd ar Lefel 5, i gynnwys modiwlau o blith: Rheolaeth Systemau Gwybodaeth, Datblygu Cymwysiadau Rhyngrwyd Cyfoethog, Dadansoddi a Dylunio Systemau Gwybodaeth, Gweinyddu a Diogelwch Rhwydwaith, Astudiaeth Annibynnol mewn Cyfrifiadureg a Dysgu Seiliedig ar Gyflogaeth.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa: Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen at radd anrhydedd.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.
Mae UHOVI yn bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.

