Lefel 4
Cod UCAS: I’w benderfynu
Hyd: 2 flynedd ran-amser
Gofynion Mynediad: Un Lefel A a 5 TGAU gradd C neu uwch; neu BTEC Tystysgrif/Diploma Genedlaethol, GNVQ Uwch/AVCE mewn Astudiaethau Adeiladu (neu debyg). Medrir derbyn ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol, yn amodol ar gyfweliad.
Disgrifiad o’r Cwrs: Mae’r diwydiant adeiladu yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa, yn cynnwys swyddi fel Rheolwyr Safle, Cynghorwyr Diogelach a Chynllunwyr Prosiect. Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i gefnogi datblygu a rheoli’r amgylchedd adeiledig.
Beth fyddwch yn ei astudio: Blwyddyn 1; Technoleg Adeiladu 1, Y Gyfraith a’r Amgylchedd Adeiledig, Y Gyfraith, Deunyddiau a Gwyddoniaeth • Ymarfer Prosiect • Gwaith Syrfewr a Mesur Adeiladau, Cynllunio Datblygu Personol, NEBOSH Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol Iechyd a Diogelwch.
Blwyddyn 2, Technoleg Adeiladu 2, Ymarfer Proffesiynol 2, Gwerthuso a Datblygu Prosiect, Astudiaeth Annibynnol. Bydd myfyrwyr hefyd yn dilyn cyfnod 15 wythnos o ddysgu seiliedig ar gyflogaeth, gan ei gwneud yn bosibl cymhwyso gwybodaeth academaidd i’r gweithle.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa: Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i radd anrhydedd.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

