ACA mewn Gwaith Brics, Gwaith Saer Coed ac Asiedydd, Peintio, Addurno a Plastro

Lefel: 3

Hyd: 1 Flwyddyn Lawn-amser

Gofynion Mynediad:
Cymhwyster lefel 2, profiad yn y grefft a bydd y tiwtor cwrs yn cyfweld â phob myfyriwr.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae gan y cwrs ogwydd ymarferol a chaiff ei gydnabod am ddatblygu sgiilau a gwybodaeth sylfaenol rhai sydd eisiau hyfforddi ar gyfer gyrfa fel crefftwyr gyda chymwysterau llawn o fewn y diwydiant adeiladu.

Beth fyddwch yn ei Astudio:
Mae’r rhaglen yn rhoi cyflwyniad i un o’r prif bedwar maes crefft: Gwaith Brics, Gwaith Saer Coed ac Asiedydd, Peintio ac Addurno a Phlastro. Gall dysgwyr ddatblygu eu sgiliau ymarferol a sylfaen gwybodaeth fydd yn eu galluogi i weithio yn y grefft adeiladu a ddewiswyd ganddynt.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Gall myfyrwyr geisio cyflogaeth yn y maes Adeiladu.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.