FCA mewn Gwaith Brics, Gwaith Saer Coed ac Asiedydd, Peintio ac Addurno, a Phlastro (cyfres C&G 6000)

Lefel: 1

Hyd: Llawn-amser 1 flwyddyn

Gofynion mynediad: Cymhwyster lefel 2 a phrofiad yn y cwrs. Bydd tiwtor y cwrs yn cyfweld â phob myfyriwr.

Disgrifiad o’r Cwrs: Mae gan y cwrs hwn ogwydd ymarferol a chaiff ei gydnabod fel y cam cyntaf mewn datblygu’r sgiliau a gwybodaeth sylfaenol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb dechreuol yn y diwydiant adeiladu.

Beth fyddwch yn ei Astudio: Mae’r rhaglen yn rhoi cyflwyniad un o’r pedwar prif faes crefft: Gwaith Briciau, Gwaith Saer Coed ac Asiedydd, Peintio ac Addurno, a Phlastro. Gall dysgwyr ddatblygu eu sgiliau ymarferol a sylfaen gwybodaeth fydd yn eu galluogi i weithio yn y grefft adeiladu a dewiswyd ganddynt.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa: Gall myfyrwyr symud ymlaen i Ddyfarniad Canolraddol Adeiladu.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.