Lefel: 2
Hyd: Llawn-amser neu Ran-amser 1-2 flynedd
Gofynion Mynediad:
Cymhwyster lefel 2 a phrofiad yn y grefft. Bydd tiwtor y cwrs yn cyfweld â phob myfyriwr.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Nod y rhaglenni hyn yw datblygu’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd eisoes yn cael eu cyflogi neu’n hyfforddi am swydd o fewn y pedair crefft uchod yn y diwydiant adeiladu.
Caiff y sgiliau hyn eu gosod gan y diwydiant felly mae dysgwyr yn ennill safonau cymhwysedd cenedlaethol. Caiff y cymwysterau hyn eu hatodi gan ddatblygu Sgiliau Allweddol ar hyd y rhaglen.
Beth fyddwch yn ei Astudio:
Mae’r llwybr NVQ ar gyfer yr holl grefftau uchod ar gael i’r myfyrwyr hynny a gaiff eu noddi gan eu cyflogwyr neu drwy’r Brentisiaeth Agored a gynigir ar y cyd gyda Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu (CITB). Caiff pob rhaglen astudiaeth lawn-amser ei hasesu drwy ddysgu ymarferol.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Gall myfyrwyr symud ymlaen i’r Uwch Ddyfarniad Adeiladu.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.


