Lefel: 1 – 2
Hyd: Llawn-amser 1 flwyddyn
Gofynion Mynediad:
Lefel 1 – Dim gofynion mynediad ffurfiol. Lefel 2 – 4 TGAU C neu uwch (yn cynnwys Mathemateg a Gwyddoniaeth) neu GNVQ priodol, neu PEO Lefel 1.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r cymhwyster Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO) yn rhoi’r hyblygrwydd i gyflawni ymarferion peirianneg presennol a dyfodol. Mae’n bodoli ar ddwy lefel, lefel 1 a 2. Gall roi gofyniad sylfaen y Brentisiaeth Fodern lle caiff llwybrau tystiolaeth priodol eu dethol o lwybr lefel 1 neu lefel 2.
Beth fyddwch yn ei Astudio:
Cynlluniwyd y cyrsiau i roi rhaglen hyfforddiant ar draws ystod eang o gymwysterau peirianneg sy’n cynnwys Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol. Anelwyd y rhaglenni at y myfyrwyr hynny sy’n edrych am gyflogaeth yn y maes ac sydd angen y sgiliau angenrheidiol fydd yn eu galluogi i sicrhau cynnydd.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Gall myfyrwyr geisio cyflogaeth yn y maes.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.


