EMFEC Tystysgrif mewn Ymarfer Weldio


Lefel: 1 – 2

Hyd: 1 flwyddyn y lefel – dau fin-nos yr wythnos

Gofynion Mynediad:
Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd basio prawf crefft cyn dechrau ar y cwrs.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r cynllun tystysgrif yn gymhwyster ar gyfer weldwyr ymarferol ac fe’i cynigir ar lefel 1 a 2 sydd â chysylltiad penodol â BS 4872. Caiff pob tystysgrif eu llofnodi gan y Sefydliad Weldio. Gall ymgeiswyr sy’n bodloni holl ofynion y cynllun gael: • BS 4872 Ardystiad a gwneud cais ar gyfer • Profi gan Lloyds Insurers.

Beth fyddwch yn ei Astudio:

Ar lefel 1, 2 a 3 byddwn yn cynnig: 
• Weldio Arc-Metel â Llaw 
• Weldio Arc-Metel gyda Nwy yn defnyddio Tarian • Weldio Arc-Twngsten gyda Nwy yn defnyddio Tarian 
• Weldio a Thorri Ocsi-Asetylin gyda Nwy
• Prosesau Ffabrigeiddio Cyffredinol/Llen 
• Darlunio Peirianneg. Mae 3 opsiwn ar gyfer weldio ar lefel 3: 
• Pibell
• Alwminiwm
• Dur Gloyw

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:

Statws weldio cymwysedig..

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.