Diploma mewn Technoleg Peirianneg

Lefel: 3

Hyd: 1 Flwyddyn Ran-amser

Gofynion Mynediad: Tystysgrif Sylfaen mewn Peirianneg, GNVQ Canolraddol, Dyfarniad Cyntaf mewn Peirianneg, 4 TGAU gradd A*-C. Ymgeiswyr aeddfed drwy gyfweliad.

Disgrifiad o’r Cwrs: Mae’r ddiploma yma yn gymhwyster cysylltiedig â galwedigaeth (VRQ) a ddatblygwyd i ateb y galw gan ddiwydiant a sicrhau fod gan yr ymgeisydd wybodaeth ymarferol yn ogystal â gwybodaeth ddamcaniaethol o beirianneg.
Medrir datblygu’r cymhwyster ymhellach i gymhwyso fel Tystysgrif Dechnegol, a ddefnyddir yn y fframwaith prentisiaeth fodern.

Beth fyddwch yn ei Astudio: I ennill y Ddiploma mewn Peirianneg a Thechnoleg mae angen i’r ymgeisydd gwblhau dwy uned orfodol gyffredin, yn y nifer gofynnol o unedau opsiynol o’r llwybr a ddewiswyd ganddynt.
Mae’r llwybrau’n cynnwys: Trydanol/Electronig, Ffabrigeiddio a Weldio, Cynnal a
Chadw a Mecanyddol. Mae llwybr Peirianneg Aml-sgil hefyd ar gael.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa: Dilyniant o fewn y maes peirianneg.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.