Lefel: 1
Hyd: Rhan-amser min mos. Cynigir pob cwrs dros gyfnod 10 wythnos 3 awr yr un bob wythnos, rhwng 6 a 9pm. Medrir eu hailadrodd bob tymor.
Gofynion Mynediad: Drwy gyfweliad. Mae’r ffioedd ar gyfer cyrsiau yn amrywio rhwng £200 – £300 y person am bob rhaglen hyfforddiant.
Disgrifiad o’r Cwrs: Cyflwynir y cyrsiau gan Aseswyr NVQ wedi eu hachredu gan y CITB a City & Guilds ac fe’u cynlluniwyd i’ch paratoi i weithio’n broffesiynol yn y diwydiant adeiladu.
Ar gyfer pwy mae’r cyrsiau hyn? Rhai heb fawr neu ddim profiad neu grefftwyr sy’n dymuno ailhyfforddi neu ddiweddaru eu sgiliau. Rhai sy’n edrych am newid gyrfa, rhai sy’n adeiladu eu cartrefi eu hunain, rhai sy’n gwella tai neu rai sydd â diddordeb mewn adnewyddu adeilad.
Beth fyddwch yn ei Astudio: Plastro, Leinio Sych, Plastro Styden Fetel, Plastro Ffibrog neu Osod Brics, Gwaith Syrfe Sylfaenol, Adeiladu Patio neu Waith Coed Sylfaenol, Llwybro, Peiriannu Pren, Adeiladu To neu Bapuro Wal, Graenio Pren a Marmori, Technegau Peintio Addurno, Stensilo.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa: Bydd ein tiwtoriaid/hyfforddwyr gyda chymwysterau proffesiynol yn rhoi hyfforddiant sgiliau trwyadl ac yn asesu eich gallu. Pan enillwch y lefel cymhwysedd sydd ei angen ar gyfer y rhaglen, dyfernir tystysgrif Coleg i chi ar ddiwedd y cwrs.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

