BTEC Dyfarniad Cenedlaethol mewn Adeiladu

Lefel: 3

Hyd: Llawn-amser 1 flwyddyn

Gofynion Mynediad:
Dim gofynion mynediad ffurfiol, derbyniad yn amodol ar gyfer cyfweliad gyda thiwtor cwrs.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Cydnabuwyd yn eang fod bwlch sgiliau yn y rolau technolegol a phroffesiynol sy’n datblygu’n gyflym yn y diwydiant Adeiladu.
Os yw hwn yn faes cyflogaeth y dymunwch symud iddo, neu’ch bod yn cael eich cyflogi ar hyn o bryd ynddo ac y byddech yn hoffi ennill cymhwyster arbenigol cysylltiedig â gwaith sy’n rhoi’r wybodeath, dealltwriaeth a sgiliau yr ydych eu hangen fel dysgwr i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth neu symud ymlaen o fewn y maes adeiladu, mae llwybr BTEC Cenedlaethol yn ddewis delfrydol.
Mae’r cymhwyster galwedigaeth penodol hwn a gydnabyddir yn genedlaethol yn canolbwyntio ar anghenion y diwydiant adeiladu a gall hefyd roi’r gofynion gwybodaeth sylfaenol ar gyfer NVQ mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig.

Beth fyddwch yn ei Astudio:
• Iechyd, Diogelwch a Lles
• Adeiladu a’r Amgylchedd
• Technoleg a Dylunio Adeiladu #
• Gwyddor a Deunyddiau Adeiladu
DS: # yn nodi uned a gaiff ei hasesu drwy Aseiniad Galwedigaethol Integredig • Dulliau Dadansoddol
• Cynllunio, Trefnu a Rheoli Adnoddau 
• Manylion Graffigol
• Prosesau Mesur, Tendro ac Amcangyfrif 
• Prosesau Arolygon

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu i sicrhau y bu dysgu effeithiol. Mae’r holl asesiadau yn seiliedig ar aseiniad ac yn adeiladu ar gymwysiadau adeiladu. Mae meini prawf ar gyfer graddau Pas, Teilyngdod neu Glod.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Ar gyfer rhai sy’n dymuno parhau ar y llwybr academaidd, mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant sy’n cynnig llwybr uniongyrchol i Addysg Uwch, e.e. rhaglenni HNC/D neu Radd Sylfaen a gynigir yn y Brifysgol ar hyn o bryd.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.