Tystysgrif mewn Plymio Sylfaenol C&G 6129

Lefel: 2

Hyd: Llawn-amser

Gofynion Mynediad: Drwy gyfweliad a phrawf asesu dechreuol.

Disgrifiad o’r Cwrs: Mae’r Dystysgrif mewn Plymio Sylfaenol yn gyrsiau ymarferol, cysylltiedig â gwaith. Byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion realistig y gweithle. Yn ogystal â dysgu am y maes cyflogaeth yr ydych wedi’i ddewis, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gychwyn gyrfa.

Mae’r Dystysgrif mewn Plymio Sylfaenol yn rhoi’r ddamcaniaeth rydych ei hangen. Byddwch yn dysgu’r egwyddorion plymio allweddol a damcaniaeth meysydd megis systemau dŵr oer a thwym, cyflenwad a diogelwch trydan. Bydd yn rhaid i chi hefyd basio prawf amlddewis i ennill y cymhwyster.

Beth fyddwch yn ei Astudio: Tystysgrif mewn Astudiaethau Plymio Sylfaenol: Systemau dŵr oer a thwym, Systemau Glanweithdra, Systemau gwres canolog (pibelli), Cyflenwad a diogelwch trydan. Mae’r asesiad drwy arholiad amlddewis a phrofion ymarferol.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa: Symud ymlaen i swydd Plymio.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.