Tystysgrif mewn Cefnogi, Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Lefel: 2- 3

Hyd: Rhan-amser 1 min nos yr wythnos

Gofynion Mynediad:
 Dylai ymgeiswyr fod yn 16 oed ac yn gweithio mewn ysgol ar sail gyflogedig, wirfoddol neu ar leoliad.

Disgrifiad o’r Cwrs: Mae’r cwrs hwn ar gael ar Lefel 2 neu Lefel 3 ac mae’n rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol ar gyfer y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cymhorthwyr Addysgu. Mae’n annog dysgu gydol oes ac yn gwella cyflogadwyedd mewn meysydd cysylltiedig.

Beth fyddwch yn ei Astudio: Lefel 2: Addysgu a dysgu mewn ysgolion, Cyfathrebu effeithlon o fewn amgylchedd ysgol diogel.
Lefel 3: Rôl y cymhorthydd addysgu. Materion allweddol mewn gweithio yn yr ysgol.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa: Mae’n gymorth i gyflogaeth fel cymhorthydd addysgu a dysgu mewn amgylchedd ysgol.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.