Tystysgrif Sylfaen

Lefel: 2

Hyd: Rhan-amser 1 flwyddyn

Gofynion Mynediad: Tystysgrif Sylfaen mewn Peirianneg, GNVQ Canolraddol, Dyfarniad Cyntaf mewn Peirianneg, 4 TGAU gradd A*-C. Myfyrwyr aeddfed drwy gyfweliad.

Disgrifiad o’r Cwrs: Mae gan y dystysgrif gymhwyster galwedigaethol (VRQ) a ddatblygwyd i ddiwallu’r galw gan ddiwydiant a sicrhau fod gan yr ymgeisydd wybodaeth ymarferol yn ogystal â damcaniaethol o beirianneg. Medrir datblygu’r cymhwyster ymhellach i gymhwyso fel Tystysgrif Dechnegol, a ddefnyddir yn y fframwaith prentisiaeth modern.

Beth fyddwch yn ei Astudio: I ennill y dystysgrif mewn Peirianneg a Thechnoleg mae angen i’r ymgeisydd gwblhau dwy uned gyffredinol orfodol a’r nifer gofynnol o unedau opsiynol o’r llwybr y maent wedi’i ddewis.

Llwybrau: Trydanol/Electronig, Ffabrigeiddio a Weldio, Cynnal a Chadw Mecanyddol. Mae llwybr Peirianneg Aml-sgil hefyd ar gael.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa: Gall myfyrwyr symud ymlaen ymhellach yn y maes peirianneg yma.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.