Prosesu Geiriau

Lefel: 3

Hyd: Rhan-amser 1 flwyddyn – 4 awr yr wythnos

Gofynion Mynediad:
Sylfaenol – Dim cymwysterau, Canolraddol – Sylfaen, Uwch – Canolraddol
Disgrifiad o’r Cwrs: Sylfaenol – Mae’r cymhwyster Prosesu Geiriau (Sylfaenol) yn uned opsiynol o fewn OCR Tystysgrif Lefel 1 mewn Prosesu Testun. Cynlluniwyd OCR Tystysgrif Lefel 1 mewn Prosesu Testun i ddatblygu a chydnabod gallu ymgeiswyr i gynhyrchu amrywiaeth o ddogfennau busnes syml.
Canolraddol – Mae’r cymhwyster Prosesu Geiriau (Canolraddol) yn uned opsiynol o fewn OCR Tystysgrif Lefel 2 mewn Prosesu Testun. Cynlluniwyd OCR Tystysgrif Lefel 2 mewn Prosesu Testun ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sydd â sgiliau a gwybodaeth sylfaenol digonol i gynhyrchu amrywiaeth o ddogfennau busnes heb oruchwyliaeth.
Uwch – Mae’r cymhwyster Prosesu Geiriau (Uwch) yn Uned Opsiynol o fewn OCR Tystysgrif Lefel 3 mewn Prosesu Testun. Cynlluniwyd OCR Tystysgrif Lefel 3 mewn Prosesu Testun i asesu gallu ymgeiswyr i roi sgiliau uwch prosesu a chynhyrchu ar waith i gynhyrchu amrywiaeth o ddogfennau busnes cymhleth.

Beth fyddwch yn ei Astudio:
Sylfaen – Mae’r uned Prosesu Geiriau (Sylfaenol) yn gofyn i ymgeiswyr gynhyrchu tair dogfen busnes (un hysbysiad arddangos, un erthygl ac un tabl tair colofn gyda phenawdau colofn un llinell) yn defnyddio prosesydd geiriau, i safon sy’n cyrraedd gofynion cynhyrchu dogfennau busnes cyflogaeth. Bydd ymgeiswyr yn gweithio o ddrafft yn cynnwys deunydd mewn llawysgrifen/wedi’i deipio a thestun a adelwir.
Gwneir yr asesiad fel arholiad 1 awr 30 munud a gaiff ei osod a’i farcio gan OCR. Yn yr arholiad bydd angen i ymgeiswyr wneud yr holl dasgau asesu o fewn y goddefiant camgymeriad a nodir yn y cyfnod arholi. Caiff canlyniadau eu graddio’n Clod, Pas neu Fethu a chaiff y radd a gafwyd ei nodi ar dystysgrif yr ymgeisydd.
Canolraddol – Ar gyfer yr Uned Prosesu Geiriau (Canolraddol) mae angen i ymgeiswyr gynhyrchu pedair dogfen busnes yn defnyddio prosesydd geiriau, i safon sy’n cyflawni gofynion cynhyrchu dogfennau busnes cyflogaeth. Y dogfennau yw hysbysiad i’w arddangos, erthygl/adroddiad, tabl gyda cholofnau, isadrannau a phenawdau aml-linell a dogfen safonol (llythyr neu femo) sy’n cynnwys ymadroddion wedi’u storio a ddewisir o ffeil ymadroddion. Bydd ymgeiswyr yn gweithio o ddrafft yn cynnwys deunydd mewn llawysgrifen/wedi’i deipio a thestun a adelwir.
 Gwneir yr asesiad fel arholiad 1 awr 30 munud a gaiff ei osod a’i farcio gan OCR. Yn yr arholiad bydd angen i ymgeiswyr wneud yr holl dasgau asesu o fewn y goddefiant camgymeriad a nodir yn y cyfnod arholi. Caiff canlyniadau eu graddio’n Clod, Pas neu Fethu a chaiff y radd a gafwyd ei nodi ar dystysgrif yr ymgeisydd.
Uwch – Fel rhan o’r Uned Prosesu Geiriau (Uwch) bydd angen i ymgeiswyr gynhyrchu pedair dogfen busnes yn defnyddio prosesydd geiriau, i safon sy’n cyflawni gofynion cynhyrchu dogfen busnes cyflogaeth ar lefel uwch. Y dogfennau i gael eu cynhyrchu yw adroddiad/erthygl sawl tudalen, tabl tirlun A4 llinellog, erthygl dwy golofn (arddull papur newydd) a llythyr neu femo. Bydd ymgeiswyr yn gweithio o ddrafft yn gynnwys deunydd wedi’i ysgrifennu â llaw/ei deipio a thestun a adelwir.
Gwneir yr asesiad fel arholiad 1 awr 30 munud a gaiff ei osod a’i farcio gan OCR. Yn yr arholiad bydd angen i ymgeiswyr wneud yr holl dasgau asesu o fewn y goddefiant camgymeriad a nodir yn y cyfnod arholi. Caiff canlyniadau eu graddio’n Clod, Pas neu Fethu a chaiff y radd a gafwyd ei nodi ar dystysgrif yr ymgeisydd.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:

Sylfaenol – Er mwyn cyflawni’r cymhwyster tystysgrif llawn ar Lefel 1, mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflawni’r Uned Graidd (Cynhyrchu Testun (Sylfaenol)) ynghyd ag un o’r unedau opsiynol. Dyfernir OCR Diploma Lefel 1 mewn Prosesu Testun i ymgeisydd sy’n ennill yr Uned Graidd ynghyd â thair Uned opsiynol. Mae tystysgrif ar gael hefyd ar gyfer unedau sengl.
Canolraddol – Er mwyn ennill y cymhwyster Tystysgrif llawn ar Lefel 2, mae angen i ymgeiswyr ennill yr Uned Graidd (Cynhyrchu Testun) (Canolraddol), ynghyd ag un o’r unedau opsiynol. Bydd ymgeisydd sy’n cyflawni’r Uned Graidd ynghyd â thair Uned opsiynol o fewn cyfnod o ddwy flynedd yn ennill OCR Diploma Lefel 2 mewn Prosesu Testun. Mae tystysgrif hefyd ar gael ar gyfer unedau sengl.
Uwch – Er mwyn ennill y cymhwyster Tystysgrif llawn ar Lefel 3, mae angen i ymgeiswyr gyflawni’r Uned Graidd (Cynhyrchu Testun) (Uwch) ynghyd ag un o’r unedau opsiynol. Bydd ymgeisydd sy’n ennill yr Uned Graidd ynghyd â thair Uned opsiynol o fewn cyfnod o ddwy flynedd yn ennill OCR Diploma Lefel 3 mewn Prosesu Testun. Mae tystysgrif ar gael ar gyfer Unedau sengl.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.