Fel rhan o gorff Prifysgol mwy, mae Coleg Merthyr Tudful yn cynnig amgylchedd dysgu unigryw i’w holl fyfyrwyr ac yn agor y ffordd i addysg uwch ar gyfer y rhai sy’n dymuno parhau gyda’u hastudiaethau ar lefel Prifysgol. Yn ogystal â manteisio ar ragoriaeth faith addysgu ym Merthyr, mae hyn yn golygu y bydd sgiliau a’r adnoddau’r Brifysgol ar gael i chi yn ystod eich astudiaethau.
Fel Deon y Coleg, mae gennyf ymrwymiad i hybu’r datblygiad hwn sydd eisoes wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn gwelliannau i’r adeilad a seilwaith ar safle Merthyr. Mae Coleg Merthyr Tudful yn arwain wrth godi safonau mewn addysg bellach yng Nghymru, ac mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol, mae ganddo brofiad dysgu o’r radd flaenaf i’w gynnig i bawb sy’n astudio yma. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Coleg.
John O’Shea
Aeth y Coleg o nerth i nerth yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf a gwariwyd llawer o arian ar wella cyfleusterau i’r holl ddysgwyr; rydym yn neilltuol o falch o’n Theatr Celfyddydau Perfformio newydd. Gobeithiaf yn fawr y byddwch yn dod ac ymuno â ni.
Gyda’r dymuniadau gorau ar gyfer eich astudiaethau.
Jonathan Martin