Mae Prentisiaethau Modern ar gael, yn rhad ac am ddim, i bobl sy’n gyflogedig am leiafswm o 30 awr yr wythnos, ac sydd rhwng 16 a 25 oed.
Mae prentisiaethau fel arfer yn para lleiafswm o rwng blwyddyn a thair blynedd ac mae dwy lefel:
Sylfaen (FMA) ac Uwch (AMA) yn NVQ Lefelau 2 a 3 yn ôl eu trefn.
Mae’r ddwy ohonynt yn arwain at fframwaith sy’n cynnwys:
• Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol – sy’n darparu sgiliau ymarferol mewn meysydd galwedigaethol penodol;
• Cymwysterau Sgiliau Allweddol – sgiliau gwaith trosglwyddadwy fel TG a chyfathrebu, cymhwyso rhif, datrys problemau, gwaith tîm, a gwella dysgu a pherfformiad;
• Tystysgrifau Technegol – cymwysterau galwedigaethol sy’n darparu gwybodaeth ategol yr NVQ.
Dysgu Seiliedig ar Waith
1 Stryd Glebeland
Merthyr Tudful CF47 8AU
Ffôn: 01685 354046
Ffacs: 01685 354049
E-bost: wblinfo@merthyr.ac.uk
A siaradwch â’r arbenigwyr

