Sylfaen / Prentisiaethau Modern Uwch

Anelir y rhaglen hon at ddysgwyr cyflogedig o bob oed a allai elwa o gael cefnogaeth sgiliau sylfaenol ychwanegol i’w galluogi i gynyddu i raglen

Brentisiaeth Fodern Sylfaen lawn. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys y canlynol: NVQ mewn llwybrau fel a nodir isod, Tystysgrif City and Guilds

Rhifedd/Llythrennedd i Oedolion a Sgiliau
Allweddol lle y bo’n briodol.

Mae cynyddu i Brentisiaeth Fodern Sylfaen – lefel 2 – yn bosib wrth gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Dysgu Seiledig are Waith (WBL) yw uned hyfforddi Coleg Merthyr sy’n arbenigo mewn cyflwyno Skillbuild a Phrentisiaethau mewn cydweithrediad â busnesau lleol.
Yn WBL, credwn fod gan bob unigolyn y gallu i ddysgu, gwneud cynnydd a chyflawni. Credwn fod cymryd rhan mewn dysgu a’r profiad o lwyddo drwy ddysgu yn hollbwysig i alluogi pobl o bob oed i symud yn effeithiol i gyflogaeth gynaliadwy. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar bedwar grˆwp targed a rhaglen allweddol:
• Pobl ifanc 14-16 oed drwy ddewislen Opsiwn Llwybrau 14-19
• Dysgwyr di-waith o 16-65 drwy ein rhaglen Skillbuild
• Pobl ifanc 16-18 oed sydd mewn gwaith ac yn barod
i ddechrau ar raglen Prentisiaeth
• Pobl o bob oed, mewn gwaith, nad ydynt yn barod eto i ymgymryd â Fframwaith Prentisiaeth llawn, drwy ein rhaglen Cyn Brentisiaeth.

Dysgu Seiliedig ar Waith
1 Stryd Glebeland
Merthyr Tudful CF47 8AU
Ffôn: 01685 354046
Ffacs: 01685 354049
E-bost: wblinfo@merthyr.ac.uk
A siaradwch â’r arbenigwyr