Amdanom Ni

Ein cenhadaeth yw: “Codi uchelgais a chynyddu potensial i’r eithaf’.

Bydd y coleg yn cael effaith sylweddol ar economi ardal Blaenau’r Cymoedd drwy gynyddu sicrhau sgiliau a chymwysterau sylfaenol a lefel uwch ar gyfer cyflogaeth neu addysg uwch; ac felly gefnogi datblygu cymunedau iach a chynaliadwy.

Caiff y coleg ei gydnabod ar draws y rhanbarth fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer pob dysgwr o 16 oed ymlaen. Bydd y coleg yn darparu addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf ar y campws a hefyd yn y gweithle, gan wneud defnydd llawn o Fagloriaeth Cymru, ar lefelau un i dri, a graddau sylfaen ar lefelau pedwar a phump.

Sefydlwyd Coleg Merthyr Tudful ar y safle presennol yn 1955. Caiff cyrsiau eu rheoli dan dair cyfadran: Busnes a Dysgu Gydol Oes, Gwasanaethau i Bobl a Thechnoleg.

Mae tua 850 o fyfyrwyr yn dilyn cyrsiau llawn-amser a 3500 arall yn cofrestru’n rhan-amser. Mae gan y Coleg gontract mawr ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith, mae ganddo uned Gwasanaethau Masnachol egniol ac mae wedi cyflawni mwy o ysgoloriaethau Menter nag unrhyw sefydliad addysg uwch arall yng Nghymru. Yn ystod blynyddoedd diweddar gwelwyd cynnydd cyson yn nifer myfyrwyr, gwelliant yn y proffil ansawdd a chryfhau sefyllfa ariannol y sefydliad. Mae gan y Coleg statws Buddsoddwyr mewn Pobl, Nod Ansawdd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Dyfarniad Ansawdd Gyrfa Cymru. Caiff tua 280 o unigolion eu cyflogi yn y Coleg, gyda thua 190 ohonynt yn ddarlithwyr. Mae rhaglen sylweddol o welliant i stad y Coleg yn mynd rhagddi gyda thua £1.8 miliwn wedi’i wario yn y flwyddyn academaidd bresennol.

Mae gan y Coleg ymrwymiad i gyfle cyfartal a chynyddu cyfraddau mynediad a chyfranogiad. I hyn o beth mae’n gweithredu polisi derbyniadau hyblyg ac yn darparu ar gyfer anghenion unigol wrth ddylunio rhaglenni dysgu. Mae gofal plant am ddim ar gael ym Meithrinfa’r Coleg yn ogystal â chymorth ariannol sylweddol ar gyfer myfyrwyr cymwys.

Ein gweledigaeth yw: “Byddwn yn goleg cymunedol gwirioneddol ac yn rhan gyfannol o ffabrig Merthyr Tudful; cyflawnir hyn drwy ein henw da am fod yn arloesol ac ymateb i anghenion unigolion, grwpiau cymunedol a busnes. Bydd Coleg Merthyr Tudful yn ganolog i fywyd y gymuned, nid yn unig yng nghyswllt addysg ond hefyd â rôl mewn hamdden, adloniant, y celfyddydau a byw’n iach. Byddwn yn codi uchelgais ac yn rhagori ar ddisgwyliadau pawb sy’n ymwneud â ni drwy ansawdd ac ystod ardderchog ein gwasanaethau.

Bydd ein staff a myfyrwyr yn falch i fod yn rhan o Goleg Merthyr Tudful, cânt eu gwerthfawrogi mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol a byddant yn rhannu gwobrau ein llwyddiant”.