Lefel: 3
Hyd: 2 Flynedd Llawn-amser
Gofynion Mynediad:
BTEC Tystysgrif Gyntaf/Diploma neu 4 TGAU A*-C (i gynnwys mathemateg a Saesneg). Bydd hefyd angen gwiriad heddlu cyn cychwyn y cwrs.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae BTEC Diploma Genedlaethol yn cynnwys 12 uned (6 bob blwyddyn, yn gyfwerth â 3 Lefel A). Mae myfyrwyr yn dysgu drwy gwblhau aseiniadau a chymryd rhan mewn lleoliadau gwaith. Mae’r Dystysgrif yn gyfwerth â 2 lefel A – bydd y graddau a ddyfernir yn amrywio yn ôl y meini prawf a gyflawnwyd yn yr aseiniadau drwy gydol dwy flynedd y cwrs.
Beth fyddwch yn ei Astudio:
Datblygu Cyfathrebu Effeithiol, Cydraddoldeb Amrywiaeth a Hawliau, Iechyd a Diogelwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Datblygiad Proffesiynol (uned ddwbl), Cefnogi a Diogelu Oedolion, Datblygu Addysg Iechyd drwy gyfnodau bywyd, Sylfeini Anatomeg a Phersbectifau Cymdeithasegol Ffisioleg ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Persbectifau Seicolegol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Methodoleg Ymchwil ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofalu am Bobl Hŷn.
Dim ond os enillir y Dystysgrif mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar gael. Cafodd y rhan fwyaf o elfennau’r Cymhwyster eu cynnwys o fewn Unedau BTEC ond caiff rhai eu dysgu fel sesiynau ar wahân. Mae’n rhaid cwblhau pob un o’r chwech sgil allweddol erbyn diwedd yr ail flwyddyn felly dylai myfyrwyr fod wedi ennill tair sgil allweddol ar lefel 3 a thair sgil allweddol ar lefel 2.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Gall myfyrwyr symud ymlaen i lu o feysydd cysylltiedig ag iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd nifer fawr o gyrsiau prifysgol ar gael megis Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio, Tai, Rheoli Iechyd a Gofal, Hyfforddi Athrawon neu Bolisi Cymdeithasol.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.


