HNC/Diploma Sylfaen mewn Ymarfer Gofall

Côd UCAS: TBA

Lefel: 4

Hyd: 2 Flynedd Llawn-amser

Gofynion Mynediad:
2 lefel A, AVCE, neu BTEC Diploma neu Dystysgrif Genedlaethol mewn pynciau perthnasol. Efallai y medrir derbyn myfyrwyr aeddfed heb ofynion ffurfiol yn dilyn cyfweliad a thystlythyr boddhaol. Bydd angen i bob myfyriwr weithio un ai ar sail gyflogedig neu wirfoddol o fewn sefydliad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unigolion o unrhyw oedran sy’n dymuno dilyn neu barhau â gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn cynnwys swyddi cyfrifol iawn megis y rhai’n gysylltiedig â goruchwylio a rheoli gofal. Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer datblygu gyrfa. Mae hwn yn gwrs Addysg Uwch a ddyfernir gan Brifysgol Morgannwg. Caiff yr holl ddosbarthiadau eu darparu yng Ngholeg Merthyr ond gall myfyrwyr ddefnyddio cyfleusterau’r Brifysgol yn ogystal â’r coleg. Bydd rhai cyflogwyr yn cynnig peth cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr ond bydd angen i rai myfyrwyr ariannu eu hunain.

Beth fyddwch yn ei Astudio:
Mae’r modiwlau’n cynnwys: Blwyddyn 1: Sefydliadau Gofal Cymdeithasol a Iechyd, Defnyddio Ymchwil mewn Ymarfer, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau, Astudiaethau Cymdeithasol a Seicolegol Cymwysedig, Gweithio gyda Pholisi Lles a’r Dystysgrif Profiad Cyflogaeth.

Blwyddyn 2; 
3 modiwl opsiwn yn cynnwys Integreiddio Iechyd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r Dystysgrif Profiad Cyflogaeth.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Gall myfyrwyr adael gyda HNC neu Radd Sylfaen i gofrestru ar gyrsiau Addysg Uwch eraill. Gall myfyrwyr gofrestru ar y BSc Astudiaethau Gofal a gynigir ar hyn o bryd mewn colegau eraill gyda ffransais.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.