Lefel: 2
Hyd: Opsiwn 1 Flwyddyn Lawn-amser neu Ran-amser yn amodol ar ofynion
Gofynion Mynediad:
Dwy TGAU gradd C neu uwch neu gwrs lefel 1 gyda chlod. Caiff ymgeiswyr eu dewis ar gyfer cyfweliad a phroses asesu’r coleg. Medrir derbyn oedolion yn dychwelyd i addysg heb gymwysterau ffurfiol yn disgwyl cyfweliad ac asesiad.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio gofal plant a llwybr dilyniant i gyrsiau lefel 3 o fewn y coleg. Caiff y cymhwyster ei gydnabod yn genedlaethol ac mae’n galluogi myfyrwyr i weithio mewn swydd broffesiynol gyda goruchwyliaeth fel cymhorthwyr creche, au pairs, cymhorthwyr meithrin neu gymhorthwyr athrawon mewn ysgolion Awdurdod Addysg Lleol.
Beth fyddwch yn ei Astudio:
Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau yn cynnwys datblygu, sgiliau proffesiynol, amgylcheddau iach a chwarae. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn ymarfer proffesiynol mewn amrywiaeth o osodiadau er mwyn rhoi’r hyn a ddysgoch ar waith mewn amgylchedd ymarferol.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi symud ymlaen i gyrsiau lefel 3 o fewn y coleg. Mae’n galluogi myfyrwyr i weithio mewn swydd broffesiynol.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

