CACHE Dyfarniad/Tystysgrif/Diploma Gofal Plant ac Addysg

Lefel 2 – 3

Hyd: Opsiwn Llawn-amser/Rhan-amser (amodol ar ofynion)

Gofynion Mynediad:
Y gofyniad cyntaf yw brwdfrydedd gwirioneddol am weithio gyda phlant. Caiff pob myfyriwr eu cyfweld a’u hasesu cyn eu dethol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod ag o leiaf 4 TGAU gradd A*-C (yn cynnwys Saesneg). Medrir derbyn dysgwyr aeddfed yn amodol ar gyfweliad ac asesiad.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r cwrs yn arwain at Ddiploma Gofal Plant ac Addysg CACHE, sy’n gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, yn gysylltiedig â gofal ac addysg plant o enedigaeth i 8 oed.

Beth fyddwch yn ei astudio:
Gofal ac addysg plant rhwng eu geni a 16 oed a gosodiadau blynyddoedd cynnar.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa: Mae’r Diploma yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gweithio mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd cyflogaeth e.e. ysgolion, meithrinfeydd dydd, canolfannau teulu, teuluoedd preifat, ysbytai a gosodiadau blynyddoedd cynnar.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.