Chwaraeon

Mae gan bob myfyriwr fynediad i gampfa’r Coleg, Canolfan Hamdden Rhydycar a chanolfannau gweithgareddau awyr agored. Mae gan y Coleg dimau pêl-rwyd, pêl-droed, rygbi a phêl-fasged sy’n cystadlu gyda cholegau eraill.

Bu ein tîm pêl-droed yn arbennig o lwyddiannus y llynedd. Caiff gweithgareddau hamdden eu trefnu ar brynhawn Mercher.

Mae gan ein myfyrwyr HND/HNC a Gradd Sylfaen hefyd fynediad i gyfleusterau chwaraeon Prifysgol Morgannwg.

Mae adran chwaraeon y Coleg yn cynnal Academi Chwaraeon lwyddiannus iawn.