Tystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion TAB/TAR

Lefel : 4

Dim Cod UCAS, dylid gwneud ceisiadau yn uniongyrchol i’r Coleg.

Hyd: Cwrs 2 flynedd rhan-amser, 6 awr yr wythnos ynghyd ag 80 awr o ymarfer dysgu ym Mlwyddyn Un a 120 awr o ymarfer dysgu ym Mlwyddyn 2.

Gofynion Mynediad: TAR: Unrhyw gymhwyster gradd neu ôl-radd. TAB: Cymhwyster Lefel 4 e.e. HND neu HNC. Derbynnir NVQ Lefel 3 os mai dyna’r cymhwyster uchaf yn eich maes gwaith (e.e. plymio, trin gwallt, gwaith brics, therapi harddwch ac ati).
Cewch eich ystyried ar gyfer y cwrs hefyd hyd yn oed os nad yw’r cymwysterau perthnasol gennych ond eich bod eisoes yn gweithio fel athro neu diwtor. Caiff pob myfyriwr sy’n gwneud cais am y cwrs eu cyfweld cyn y bydd y coleg yn cynnig lle ar y cwrs.

Disgrifiad o’r cwrs: Bydd y cwrs ymarferol yma’n rhoi cymhwyster llawn i chi mewn addysgu yn y sector Addysg Ôl-orfodol a Hyfforddiant.
Efallai eich bod eisoes yn gweithio fel tiwtor neu hyfforddydd ac eisiau cael cymhwyster ffurfiol, neu efallai eich bod yn angerddol am eich gwaith ac eisiau dysgu pobl eraill i wneud yr un peth. Beth bynnag yw’ch pwnc a’ch cymhelliant, byddwch yn dysgu am holl broses paratoi, cyflwyno a gwerthuso gwersi, o ysgrifennu cynllun cwrs i ddulliau asesu.
Pam astudio’r TAR/TAB ym Merthyr?
Hyblygrwydd. Gan mai dim ond am chwe awr yr wythnos y byddwch â darlithoedd, mae’n rhwydd ffitio astudio o amgylch ymrwymiadau eraill. Mae dwy sesiwn o ddarlithoedd bob wythnos, felly os na fedrwch ddod i sesiwn yn y prynhawn, medrwch fynd i sesiwn min-nos a’r ffordd arall o amgylch. Ymhellach, medrwch wneud eich ymarfer dysgu ar amser sy’n gweddu i chi.
Amrywiol. Pa bynnag bwnc y dymunwch ei addysgu, medrwch ddysgu sut i’w addysgu yma ym Merthyr. Mae ein dosbarthiadau yn fywiog, gyda chymysgedd wirioneddol o bobl o bob cefndir, o blymwyr i seicolegwyr, artistiaid i fiolegwyr.
Ymarferol. Yn ogystal â dod i’r coleg, byddwch yn rhoi llawer o’ch amser i gael profiad ymarferol o addysgu y pwnc a ddewiswyd gennych. Byddwch yn cwblhau 80 awr o ymarfer dysgu yn y flwyddyn gyntaf, a 120 awr yn yr ail flwyddyn. Yn ogystal ag ennill cymhwyster, byddwch yn cael profiad addysgu cadarn ar gyfer eich CV.
Perthnasol. Mae’r holl diwtoriaid ar y cwrs hefyd yn addysgu eu maes pwnc arbenigol eich hun ar gyrsiau eraill yn y coleg, yn cynnwys popeth o fioleg i gyfrifiadureg, felly byddwch yn dysgu gan staff sy’n hollol gyfoes gyda’r arferion addysgu diweddaraf. Byddwn hefyd yn annog darlithwyr gwadd i addysgu ar y cwrs, felly byddwch yn cael sgyrsiau a gweithdai gan arbenigwyr mewn meysydd arbenigol o addysgu a dysgu, megis anableddau dysgu neu gyllid.
Am y cwrs P’un ai ydych yn astudio am y TAR neu TAB, byddwch yn dilyn yn union yr un modiwlau dros ddwy flynedd y cwrs. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio dau fodiwl damcaniaeth fydd yn dysgu technegau i chi ar gyfer cynllunio, cyflwyno, asesu a gwerthuso. Byddwch wedyn yn rhoi’r hyn a ddysgwch ar waith mewn dau fodiwl ymarferol. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio tri modiwl craidd lle byddwch yn edrych yn agosach ar agweddau o reoli, cyflwyno ac asesu addysgu a dysgu. Byddwch hefyd yn dewis modiwl sydd o ddiddordeb i chi o blith ystod o opsiynau. Byddwch hefyd yn parhau â’ch ymarfer dysgu gyda modiwl ymarferol.

Beth fyddwch yn ei Astudio: Nid oes unrhyw arholiadau ar y cwrs hwn. Yn lle hynny, byddwch yn cwblhau cyfuniad o aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau ac asesiadau ymarfer dysgu. Ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs byrrach mewn addysgu, medrwch weithio at Dystysgrif y Gyfadran ar Gyflwyniad i Addysgu (FITC). Dros y pedwar mis, byddwch yn astudio’r ddau fodiwl cyntaf o’r rhestr islaw.
Byddwch yn astudio’r modiwlau dilynol: Blwyddyn Gyntaf 
• Cysyniadau a Phrosesau Addysgu 
• Cymhwyso Sgiliau Addysgu (Ymarfer Dysgu) 
• Rheoli Dysgu ac Asesu
• Ymarfer Proffesiynol I (Ymarfer Dysgu)
Ail Flwyddyn
• Cynllunio Cwricwlwm yn y Sector PcET 
• Addysgu a Dysgu Arloesol
• Ymarfer Addysgu II (Ymarfer Dysgu)
• Cyflwyniad i Gymorth Sgiliau Sylfaenol ynghyd ag un modiwl o’r opsiynau dilynol:
• Dysgu Oedolion yn y Gymuned
• Dwyieithrwydd Ymarferol mewn Addysgu
• Datblygu Darpariaeth Seiliedig ar Gymhwysedd 
• Mentora yn y Gweithle

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
 Gan fod hwn yn gwrs galwedigaethol, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn defnyddio eu cymhwyster i ganfod cyflogaeth fel tiwtor neu athro yn y maes pwnc a ddewiswyd ganddynt.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.