Dechreuodd y feithrinfa yng Ngholeg Merthyr Tudful fel Tiny Tots ym mis Medi 1994. Mae’n darparu gwasanaeth gofal dydd ar gyfer plant rhwng 3 mis a 5 oed. Mae 12 ystafell yn y feithrinfa; mae’r ystafell babanod yn uned ar wahân sy’n darparu ar gyfer babanod rhwng 3-12 mis oed, ystafell plant bach 1-2 oed, prif ystafell ar gyfer plant rhwng 2-3 oed ac ystafell cyn-ysgol ar gyfer plant 3-5 oed.
Mae’r feithrinfa wedi cofrestru ar gyfer hyd at 35 o blant ac mae ar agor rhwng 8-6pm ddydd Llun i ddydd Iau a 5.30pm ar ddydd Gwener. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau rhan-amser rhwng 8am a 1pm neu 1pm a 6pm (5.30pm ar ddydd Gwener). Mae prydau bwyd maethlon a chytbwys ar gael yn y feithrinfa a gynllunnir ymlaen llaw gan gogydd y feithrinfa. Rhoddir ystyriaeth bob amser i anghenion dietegol unigol. Caiff plant frecwast, cinio 2 gwrs a the bychan. Caiff y plant eu hannog i eistedd gyda’i gilydd wrth y bwrdd, bod yn gwrtais ac ymarfer eu sgiliau cymdeithasol.
Amserau Agor: Mae’r feithrinfa ar agor 8am – 6pm Llun-Gwener (5.30pm ar ddydd Gwener).
Cynigiwn sesiynau bore 8am – 1pm a sesiynau prynhawn 1pm – 6pm yn ogystal â dyddiau llawn.
Nid yw’n ofynnol archebu isafswm nifer dyddiau.

