Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Celf a Dylunio & WBQ

Lefel: 3

Hyd: 2 flynedd llawn-amser

Gofynion Mynediad:
4 TGAU yn C, neu Ddiploma BTEC 1 mewn Celf a Dylunio. Bydd y tiwtor y cwrs yn cyfweld yr holl fyfyrwyr.

Cwrs:
Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster cenedlaethol a gydnabyddir gan brifysgolion a chyflogwyr. Mae cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi dewis o lwybrau i chi i mewn i addysg uwch, neu gyfleoedd gyrfa mewn celf, dylunio a diwydiannau
cysylltiedig â chrefft. Cynlluniwyd y cwrs i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn ystod eang o bynciau celf a dylunio, sy’n cynnwys
astudiaethau 2D, dylunio graffeg, cerameg, ffotograffiaeth, darlunio, animeiddio a ffasiwn, a bydd gennych fynediad i ofod stiwdio er mwyn gweithio. At hynny, byddwch yn datblygu eich sgiliau allweddol mewn cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth. Ochr yn ochr â’r cymhwyster hwn byddwch yn ymgymryd â Diploma Craidd Uwch Bagloriaeth Cymru.

Cysylltu â ni:
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu gwblhau ymholiad neu ffurflen gais ar-lein