Yr Hafan Dysgu

Mae’r Hafan Dysgu yn ofod dysgu deinamig sy’n anelu rhoi gwasanaeth cefnogi dysgu diwnïad ac integredig i bob myfyriwr.

Mae’n gywaith rhwng y timau Adnoddau Dysgu, Cefnogaeth Dysgu a Hyfforddwyr Dysgu ac mae’n cyfuno dulliau traddodiadol a modern o ddysgu gyda thechnoleg fodern, mewn gofod hyblyg ac anffurfiol lle gall astudiaeth grŵp ac unigol ddigwydd.

Mae staff proffesiynol ar gael i gynorthwyo, cefnogi a llywio myfyrwyr wrth iddynt ymchwilio ffyrdd blaengar o gwblhau eu cwrs o astudiaeth yn llwyddiannus.