OCR Prosesu Testun Cyfreithiol

Hyd: 1 Flwyddyn Rhan-amser – 4 awr yr wythnos

Mynediad:
Prosesu Geiriau Sylfaenol neu gyfwerth.

Gofynion Mynediad:
Prosesu Geiriau (Sylfaenol)

Disgrifiad o’r Cwrs: Mae cymhwyster Prosesu Testun Cyfreithiol (Canolraddol) yn Uned Opsiynol o fewn OCR Lefel 2 Tystysgrif mewn Prosesu Testun. Cynlluniwyd OCR Lefel 2 Tystysgrif mewn Prosesu Testun i ddatblygu a chydnabod gallu ymgeiswyr i gynhyrchu amrywiaeth o ddogfennau sylfaenol heb oruchwyliaeth.

Yr hyn y byddwch yn ei astudio:
Bydd Uned (Canolraddol) Prosesu Testun Cyfreithiol yn gofyn i ymgeiswyr gynhyrchu tair dogfen busnes (un llythyr gyda dau gopi ychwanegol, un ddogfen gyfreithiol a ffurflen i’w llenwi o wybodaeth a roddwyd) yn defnyddio teipiadur neu brosesydd geiriau, i safon sy’n cyflawni gofynion cynhyrchu dogfen busnes cyflogaeth. Bydd ymgeiswyr yn gweithio o ddrafft yn cynnwys deunydd mewn ysgrifen a hefyd ddeunydd wedi’i deipio.

Bydd asesiad ar ffurf arholiad a osodir a’i farcio gan OCR. Mae’r arholiad yn 1 awr 30 munud o hyd, ac yn yr amser hwnnw mae’n ofynnol i ymgeiswyr gynnal pob tasg asesu o fewn y goddefiant camgymeriad a nodir. Caiff canlyniadau eu graddio’n Clod, Pas neu Fethu, a nodir y radd a enillwyd ar dystysgrif yr ymgeisydd.

Ar ôl Gorffen / Llwybrau Gyrfa:
Er mwyn ennill y cymhwyster tystysgrif lawn ar Lefel 2, mae angen i ymgeiswyr ennill yr Uned Graidd (Cynhyrchu Testun) (Canolraddol) ynghyd ag un o’r unedau opsiynol. Dyfernir OCR Diploma Lefel 2 mewn Prosesu Testun i ymgeisydd sy’n cyflawni’r Uned Graidd ynghyd â thair Uned opsiynol o fewn cyfnod o ddwy flynedd. Mae tystysgrifau ar gael ar gyfer Unedau unigol.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.