Cyrsiau Hamdden – Celfyddydau Creadigol

Lefel: 0
Hyd: Rhan Amser – 1 noson yr wythnos

Mynediad:
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, ond mae’n rhaid i fyfyrwyr ddangos gallu ym maes Celf a Dylunio. Bydd tiwtor y cwrs yn cyfweld â’r holl fyfyrwyr.

Cwrs:
Anelir y cwrs lefel cychwynnol hwn yn bennaf at y rheiny sy’n gadael yr ysgol sy’n chwilio am yrfa yn y maes hwn ac y byddent yn hoffi symud ymlaen i
raglenni lefel uwch neu arbenigo mewn un o nifer o ddisgyblaethau cysylltiedig. Mae’r cwrs yn ymarferol iawn a chysylltiedig â gwaith, gan ddarparu blas ar bynciau Celf & Dylunio 2D a 3D yn ogystal â chyflwyno myfyrwyr i becynnau cyfrifiadurol mewn Dylunio Graffeg. Hefyd byddwch yn datblygu eich Sgiliau Allweddol mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Ochr yn ochr â’r cymhwyster hwn byddwch yn astudio ar gyfer Diploma Canolradd y Fagloriaeth Gymreig. Bydd y ddau gymhwyster yn cyd-redeg ac yn cysylltu o ran cynnwys a chyflwyno

Cysylltu â ni:
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu gwblhau ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.