Mae Gwasanaethau Cyflogwyr Coleg Merthyr Tudful yn ddarparydd blaenllaw ar gyfer hyfforddiant cyflogeion yn ardal de Ddwyrain Cymru, gan gyflenwi hyfforddiant i gleientiaid ar draws ardal Blaenau’r Cymoedd, Caerdydd a’r Fro, Gwent, ac ardaloedd eraill o Gymru a gorllewin Lloegr.
Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cyfeiriad strategol, hwyluso, hyfforddi, ymgynghoriaeth a chyflenwi rhaglen/prosiect.
Cysylltwch â ni ar 01685 726125 neu drwy anfon e-bost i learning4work@merthyr.ac.uk i drafod sut y gallwn eich helpu i gael y gorau o’ch tîm, neu ddarllen adborth ein cleientiaid.
Lawrlwythwch PDF diweddaraf Learning4work, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth ar ein cyrsiau byr, yn ogystal â gwybodaeth ar ein cyrsiau a gwasanaethau eraill i gyflogwyr. Bydd clicio ar y ddolen pdf ar gyfer gwybodaeth Learning4work yn agor Adobe Acrobat. Os nad yw Adobe Acrobat gennych ar eich cyfrifiadur, medrwch ei lawrlwytho yma.
Gwasanaethau Masnachol / Dysgu 4 Gweithio
3ydd Llawr / Ystafell 319
Coleg Merthyr Tudful /
Prifysgol Morgannwg
Ynsfach
CF48 1AR
Ffôn: 01685 726000
Ffacs: 01685 726096