Lefel: 4
Hyd: 2 flynedd rhan-amser 6 awr yr wythnos, ynghyd â 200 awr o addysgu
Mynediad:
Ceir mynediad trwy gyfweliad llwyddiannus. Bydd gan ymgeiswyr feistrolaeth dda o Gymraeg/Saesneg ysgrifenedig a llafar. Dylai myfyrwyr fod â chymhwyster pwnc perthnasol e.e. gradd, HNC/HND, Cymwysterau City & Guilds lefel 3 ayyb. Gellid derbyn y rheiny sydd eisoes yn addysgu neu’n hyfforddi, ond nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol drwy gyfweliad hefyd.
Cwrs:
Cyn hir bydd y cymhwyster hwn yn ofynnol i’r holl diwtoriaid sy’n dymuno addysgu mewn addysg ôl-16, p’un ai mewn colegau, cwmnïau hyfforddiant neu addysg gymunedol. Mae dwy ran i’r cymhwyster: Cymhwyster Cyntaf yn cynnwys dau fodiwl yn y flwyddyn gyntaf, neu’r Dystysgrif Lawn sy’n cynnwys wyth modiwl dros ddwy flynedd. Mae’r Cymhwyster Cyntaf yn werthfawr i diwtoriaid rhan-amser sy’n addysgu ar gyfer rhai oriau yr wythnos, ond y Dystysgrif Lawn fydd y prif gymhwyster ar gyfer tiwtoriaid llawn-amser. Nid oes unrhyw arholiadau ysgrifenedig, mae’r holl asesu drwy ffurfiau amrywiol ar asesu parhaus. Mae pob myfyriwr yn gyfrifol am drefnu eu lleoliadau ymarfer dysgu eu hunain, os nad ydynt eisoes yn dysgu.
Cysylltu â ni:
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu gwblhau ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

