A Ffotograffiaeth Lefel AS/A2

Cyfnod: Rhan-Amser Min-Nos

Gofynion mynediad:
Dim cymwysterau ffurfiol. Bydd pob myfyriwr yn mynychu cyfweliad i gael eu derbyn ar y cwrs.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r cwrs poblogaidd a llwyddiannus yma yn lefel A modwlar mewn dau ran. Y bwrdd arholi yw AQ A (Assessment Qualification Alliance). Fel arfer caiff AS ei astudio yn y flwyddyn gyntaf ac A2 yn yr ail flwyddyn, fodd bynnag gellir astudio AS fel modiwl ar ei ben ei hun fel rhan o becyn lefel A ac mewn rhai achosion gellir astudio AS ac A2 mewn un flwyddyn os yw’r ymgeisydd yn mynychu dwy sesiwn yr wythnos a dawn am hyn. Mae’r pwyntiau UCAS yr un fath ag ar gyfer lefelau A eraill a chynghorir ymgeiswyr i gael cyngor gyrfa i weddu’r nodau dilyniant a ddewisir ganddynt.

Beth fyddwch yn ei Astudio:
Mae amserlen A2 Ffotograffiaeth yn ymestyn eich ymarfer a sgiliau ffotograffig ymhellach ac yn rhoi hyn yng nghyd-destun arddulliau a phrosesau ffotograffig hanesyddol a chyfoes. Caiff dulliau du a gwyn traddodiadol eu cyferbynnu gyda sgiliau delweddu digidol a ffotograffiaeth arbrofol. Caiff myfyrwyr ar y lefel hon eu hannog i ddatblygu arddull bersonol drwy waith prosiect gyda thema. Mae dau fodiwl gwaith cwrs, un ohonynt ag elfen ysgrifenedig ar ffurf un ai traethawd neu gyfnodolyn. Mae hefyd uned arholi ymarferol. Mae Iechyd a Diogelwch yn rhan gyfannol o bob gweithdy.

Ar ôl Gorffen / Llwybrau Gyrfa:
Mae llwybrau cynnydd nodweddiadol yn cynnwys mynediad i raglenni BA Anrh mewn meysydd cysylltiedig â Chelf a Dylunio a rhaglenni BA Anrh ffotograffiaeth.

Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys – Diplomâu Sylfaen mewn Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth Ddogfennol, Celf Ffotograffig, Ffotograffeg Ffasiwn/Dylunio Ffasiwn, Dylunio Mewnol, Celfyddyd Gain, Ymarfer Celf, Dylunio Graffeg, Animeiddio, Tecstilau, Dylunio 3D, Dylunio Cynnyrch, Astudiaethau Cyfryngau, Amlgyfryngau a Chyfryngau Lens, Ffilm a Theledu.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.