Lefel: 4
Hyd: 2 flynedd 13awr yr wythnos (llawn-amser)
Gofynion Mynediad:
BTEC Cymhwyster Galwedigaethol ar Lefel 3, Lefel A gradd A-C. Mae’n rhaid i ymgeiswyr aeddfed fod â phrofiad perthnasol. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad ffurfiol ac yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy cyn detholiad.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Bydd y cwrs astudiaeth yn rhoi’r cyfle i’r unigolyn ymchwilio, astudio ac ymarfer o amgylch y themâu a materion yn seiliedig o fewn y sector cerddoriaeth. Bydd astudio ymarferwyr a rhoi eu damcaniaethau ar waith mewn perfformiadau cerdd ymarferol yn greiddiol i’r cwrs. Gall myfyrwyr arbenigo mewn perfformiad neu dechnoleg, gan ennill sgiliau ymarfer proffesiynol. Bydd lleoliad gyda sefydliad partner yn elfen bwysig o’r ail flwyddyn.
Beth fyddwch yn ei Astudio:
Mae modiwlau neu feysydd astudiaeth yn cynnwys opsiynau a chynnwys ymarferol/damcaniaethol, gwaith prosiect, gweithio yn y gymuned ac ati).
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Ar ôl cwblhau’r ddwy flynedd gyntaf yn llwyddiannus, caiff myfyrwyr gyfle i symud ymlaen i flwyddyn Anrhydedd mewn Ffilm a Theledu yn yr Atriwm yng Nghaerdydd.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

