Lefel: 4
Hyd: 2 flynedd 13 awr yr wythnos (llawn-amser)
Gofynion Mynediad:
BTEC Cymhwyster Galwedigaethol ar Lefel 3, Lefel A gradd A-C. Mae’n rhaid i ymgeiswyr aeddfed fod â phrofiad perthnasol. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad ffurfiol ac yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy cyn detholiad.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Bydd y cwrs astudiaeth yn galluogi unigolion i ymchwilio, astudio ac ymarfer o amgylch themâu a materion yn seiliedig o fewn y sector drama a cherddoriaeth.
Mae astudio ymarferwyr a gweithredu eu damcaniaethau mewn cynyrchiadau theatr/cerddoriaeth ymarferol yn greiddiol i’r cwrs astudiaeth.
Gall myfyrwyr arbenigo mewn perfformiad, creu neu gyfarwyddo, gan ddysgu ymarfer theatr da. Bydd lleoliad gyda sefydliad partner yn elfen bwysig o ail flwyddyn yr astudiaeth. Mae modiwlau neu feysydd astudio (yn cynnwys opsiynau a chynnwys ymarferol/damcaniaethol, prosiect, gweithio yn y gymuned ac ati).
Beth fyddwch yn ei Astudio:
Blwyddyn 1: Cyflwyniad i Ddrama: Testunau a Chyd-destunau Ymarfer Theatr 1; Creu – Cyfarwyddo – Perfformio, Sgiliau Astudio, Prosiect Ymarferol Diwydiannau Creadigol.
Blwyddyn 2: Ymarfer Theatr 2, Cyd-destunau, Hanes, Arferion, Lleoliad Gwaith Diwydiannau Creadigol.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Gall myfyrwyr symud ymlaen i Raddau ac i faes Celfyddydau Perfformio.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.


