Rheolwr Cydraddoldeb: Judith Mulry
Mae Coleg Merthyr Tudful yn falch i fod yn aelod o bwyllgor trefnu y Pentref Byd-eang (cliciwch i ymweld â‘r wefan).
Amdanom Ni
Nod Cynllun Cydraddoldeb Sengl y Coleg yw sicrhau y caiff pob person ei drin gydag urddas a pharch beth bynnag yw eu hoedran, rhyw (yn cynnwys ailaseiniad rhyw), anabledd, cyfrifoldeb teulu, statws priodasol, rhieniol neu bartneriaeth, hil, tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw, crefydd neu gredo, cyfeiriadedd rhywiol, gweithgaredd undeb llafur neu unrhyw faen prawf amherthnasol arall. Dymunwn hyrwyddo a chynnal diwylliant lle mae cyd-ymddiriedaeth a pharch yn sylfaen perthynas waith rhwng staff a myfyrwyr.
Mae gan y coleg hefyd bolisi Urddas yn y Gwaith gyda’r diben o gynorthwyo diwylliant lle gwyddys fod triniaeth annheg, gwahaniaethu, bwlio, aflonyddu, erledigaeth ac allgau yn annerbyniol. Mae’r polisi hefyd yn rhoi gweithdrefnau digonol i ddelio gyda digwyddiadau o’r fach os ydynt yn digwydd.
Grŵp Cynhwysiant ac Amrywiaeth y Coleg
Mae gan y Coleg Grŵp Llywio Cynhwysiant ac Amrywiaeth (CID) ar gyfer staff a dysgwyr sy’n cynnwys yr holl feysydd cydraddoldeb – anabledd, hil, rhyw, oedran, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol a thrawsrywiol. Mae’r fforymau’n cwrdd yn rheolaidd ac yn cefnogi cynllunio, datblygu, gweithredu ac adolygu’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl. Mae gan CID gyfrifoldeb cyffredinol am gydlynu ar gyfer materion cydraddoldeb ac mae’n rhoi cyfnewidfa wybodaeth ddwyffordd rhwng Coleg Merthyr Tudful a Grŵp Llywio Cydraddoldeb ac Anabledd Prifysgol Morgannwg.
Mae grŵp dysgwyr CID yn gwahodd myfyrwyr i drafod heriau, gwneud awgrymiadau a chynnig datrysiadau eraill i faterion a godwyd. Mae’r dysgwyr yn sylfaen i’r broses gynllunio ac yn cyfrannu at gynlluniau gweithredu cydraddoldeb y coleg.
Mae grŵp dysgwyr CID yn enwebu cynrychiolydd i fynychu grŵp llywio’r staff gan sicrhau y caiff awgrymiadau myfyrwyr eu trafod a bod rheolwyr y coleg yn gweithredu arnynt. Mae cofnodion cyfarfodydd ar gael ac mae croeso bob amser i aelodau newydd. Cysylltwch â’r Rheolwr Cydraddoldeb os gwelwch yn dda os hoffech sgwrsio am ddod yn aelod o’r grŵp neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu faterion i’w codi.
Judith Mulry
Ystafell 5.
Rhif ffôn (01685) 726198 neu
j.mulry@merthyr.ac.uk
Tîm Hyfforddwyr Dysgu (cliciwch yma) Mae gan ein Hyfforddwyr Dysgu gymwysterau da, mae gan lawer ohonynt gymwysterau ôl-raddedig ac addysgu ac mae pob un ohonynt yn dilyn hyfforddiant perthnasol yn rheolaidd fel rhan o’u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Llwybrau 14-19
Mae Llwybrau Dysgu 14-19 Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnwys hawl i bob dysgwr gael mynediad i Hyfforddydd Dysgu. Mae gan y coleg dîm Hyfforddwyr Dysgu sy’n dilyn hyfforddiant i ennill statws Hyfforddiant Dysgu Achrededig mewn cysylltiad â’r Rhwydwaith 14-19 lleol. Os ydych yn ddysgwr ifanc rhwng 14 a 19 oed ac y byddech yn hoffi helpu i gynllunio eich llwybr dysgu, galwch heibio’r Hafan Dysgu (cliciwch yma) a sgwrsio gydag un o’r Hyfforddwyr Dysgu.
Dyslecsia a’r Anabledd
Mae gan y Coleg gyfrifoldeb cyfreithiol dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd i bob dysgwr gydag anawsterau dysgu a/neu anableddau i roi addasiadau rhesymol i’w galluogi i gymryd rhan lawn ym mywyd y coleg. Gall y tîm Hyfforddwyr Dysgu gynnig cefnogaeth dysgu i ddysgwyr gyda dyslecsia ac anableddau mewn amgylchedd cynhwysol, anwahaniaethol lle caiff dysgwyr eu hannog i gyflawni eu potensial. Os hoffech sgwrsio am eich anghenion cefnogaeth, galwch heibio’r Hafan Dysgu a sgwrsio gydag un o’n Hyfforddwyr Dysgu os gwelwch yn dda.
Jacqui Butler
Parth Dysgu.
Rhif ffôn (01685) 726021 neu
j.butler@merthyr.ac.uk