BTEC Cenedlaethol Diploma Estynedig mewn Astudiaeth/Bagloriaeth Uwch Cymru

Lefel: 3

Hyd: 2 flynedd

Hyd: Llawn-amser 2 flynedd

Gofynion Mynediad:

Fel arfer disgwylir i ymgeiswyr fod â 4 TGAU gradd A-C neu BTEC/NVQ Lefel 2 cyfwerth. Mae croeso i ymgeiswyr aeddfed ac efallai y medrir eu derbyn heb y gofynion mynediad a nodwyd. Ym mhob achos, mae derbyniad ar y cwrs drwy gyfweliad.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae cymhwyster BTEC yn cwmpasu ystod eang o feysydd busnes, yn cynnwys rheolaeth adnoddau dynol, cyllid, y gyfraith, marchnata, yn ogystal â phynciau e-Fusnes yn cynnwys dylunio gwefannau a chronfeydd data ac mae’n gyfwerth â thair lefel ‘A’. Mae asesiad drwy aseiniadau ar y cwrs. Yn neilltuol, byddai’r sgiliau a enillir yn galluogi’r ymgeiswyr llwyddiannus i gyfuno sgiliau busnes confensiynol gyda datblygiadau electronig a Rhyngrwyd , neu sefydlu a chynnal busnes yn llwyr ar-lein.

Mae Bagloriaeth Cymru’n rhedeg wrth ochr y BTEC ac yn cyfuno ymweliadau a phrosiectau sy’n eich datblygu chi fel unigolyn gan eich helpu i baratoi ar gyfer y camau nesaf yn eich gyrfa, un ai ar gyfer gwaith neu fynediad i brifysgol. Bydd y cymhwyster yn eich galluogi i gwblhau sgiliau allweddol a ystyrir yn bwysig gan gyflogwyr a phrifysgolion. Byddwch yn cynnwys pynciau megis Cymru, Ewrop a’r byd, ymchwil unigol, profiad gwaith a gwaith cymunedol.

Yr hyn y byddwch yn ei Astudio:
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn astudio cyfanswm o 18 uned alwedigaethol. Gall pynciau Blwyddyn 1 gynnwys: Rhaglenni Cyfrifiadur ar gyfer Rheolaeth Ariannol, Cyfathrebu Busnes, Ymchwilio Adnoddau Busnes, Marchnata a Chynhyrchu Gwefan.
Gall pynciau Blwyddyn 2 gynnwys: Moeseg Busnes, Cynhyrchu Gwefan, Marchnata Rhyngrwyd, Busnes Rhyngwladol, Hyfforddiant yn y Gweithle a Rheoli Digwyddiad Busnes.
Bydd myfyrwyr yn astudio Bagloriaeth Cymru wrth ochr y Diploma; mae hyn yn cynnwys pynciau fel Cymru, Ewrop a’r Byd, Addysg Gysylltiedig â Gwaith, Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Mae’r cymhwyster hwn yn lefel 3 ac yn gyfwerth â phedair lefel A. Fel canlyniad, gall ymgeiswyr llwyddiannus benderfynu mynd i addysg uwch mewn amrywiaeth o bynciau cysylltiedig â busnes/e-fusnes. Ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sydd eisiau mynd i gyflogaeth ar unwaith, medrir chwilio am swyddi addas yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol mewn amrywiaeth eang o feysydd.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.