Hyd: Rhan-amser 1 flwyddyn – 4 awr yr wythnos
Gofynion Mynediad:
Disgwylid i fyfyrwyr fod wedi ennill tystysgrif CLAIT cyn cychwyn ar y cwrs.
Disgrifiad o’r Cwrs:
OCR Technoleg Busnes Integredig Cam 3 (IBT3) yw’r dilyniant naturiol o gynllun IBT2 yr OCR. Mae’n cynnwys rhai o’r rhaglenni meddalwedd mwyaf cyffredin h.y. cronfa ddata, taenlen, prosesydd geiriau, cyfleusterau graffig y daenlen ynghyd ag e-bost rhaglen cyflwyno.
Yr hyn y byddwchyn ei astudio:
1. Derbyn/anfon negeseuon e-bost gyda ffeil/iau wedi eu hatodi;
2. Creu cyfeiriaduron/ffolderi a rheoli ffeiliau;
3. Diweddaru cronfa ddata bresennol a chynhyrchu allbwn penodol;
4. Ymestyn taenlen bresennol a chynhyrchu allbwn penodol;
5. Cynhyrchu graffiau o ddata sydd ar gael;
6. Cynhyrchu cyflwyniad awtomedig;
7. Cynhyrchu cyhoeddiad busnes.
Mae’r cynllun yn mynd ati i asesu sgiliau technoleg gwybodaeth mewn ffordd ymarferol. Mae technoleg gwybodaeth yn profi, drwy ddogfennau ffynhonnell, allu’r myfyriwr i ddewis data perthnasol i ddewis data perthnasol o ddogfennau busnes a gwybodaeth atodol. Mae un Elfen Ardystiad ac maent yn fodd o gofnodi datganiadau cadarnhaol o gymhwysedd sy’n ffurfio’r datganiadau a gaiff eu hargraffu ar dystysgrif y myfyriwr.
I gyflawni tystysgrif lawn OCR Clait Plus, mae’n rhaid i fyfyrwyr basio pob un o’r 5 o’r elfennau a restrir uchod. Os nad yw’r myfyrwyr yn pasio pob un o’r pum elfen dyfernir tystysgrif iddynt yn rhestru’r elfennau lle maent wedi arddangos cymhwysedd.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Mae dilyniant o’r cwrs yn amrywiol oherwydd y gall ffurfio sylfaen eang o wybodaeth ar raglenni technoleg gwybodaeth, a fyddai’n ddefnyddiol mewn llawer o feysydd o astudiaeth bellach e.e. BTEC Tystysgrif mewn Cyfrifiadureg a chyrsiau mewn Astudiaethau Busnes.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

