OCR Cyflwyniadau Busnes

Hyd: Rhan-amser 1 flwyddyn – 4 awr yr wythnos

Gofynion Mynediad:
Prosesu Geiriau (Sylfaenol)
Disgrifiad o’r Cwrs: Mae’r cymhwyster Cyflwyniadau Busnes (Canolraddol) yn Uned Opsiynol o fewn Tystysgrif OCR Lefel 2 mewn Prosesu Testun. Cynlluniwyd Tystysgrif OCR Lefel 2 Prosesu Testun ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sydd â sgiliau a gwybodaeth sylfaenol digonol i gynhyrchu amrywiaeth o ddogfennau busnes heb oruchwyliaeth.

Beth fyddwch yn ei Astudio:
Ar gyfer yr Uned Cyflwyniadau Busnes (Canolraddol) mae angen i ymgeiswyr ddefnyddio pecyn cyflwyno i gwblhau pedair tasg wahanol yn gweithio o ddeunyddiau drafft a ysgrifennwyd â llaw ac a deipiwyd. Disgwylir i ymgeiswyr ddilyn y briff dylunio er mwyn cynhyrchu prif sleid a’i haddasu yn defnyddio arddulliau a chynlluniau a osodwyd yn ymlaen law. Gwneir yr asesiad fel arholiad 1 awr 30 munud a gaiff ei osod a’i farcio gan OCR. Yn yr arholiad bydd angen i ymgeiswyr wneud yr holl dasgau asesu o fewn y goddefiant camgymeriad a nodir yn y cyfnod arholi. Caiff canlyniadau eu graddio’n Clod, Pas neu Fethu a chaiff y radd a gafwyd ei nodi ar dystysgrif yr ymgeisydd.

Ar ôl Gorffen / Llwybrau Gyrfa:
Er mwyn ennill y cymhwyster tystysgrif lawn ar Lefel 2, mae angen i ymgeiswyr ennill yr Uned Graidd (Cynhyrchu Testun) (Canolraddol) ynghyd ag un o’r unedau opsiynol. Dyfernir OCR Diploma Lefel 2 mewn Prosesu Testun i ymgeisydd sy’n cyflawni’r Uned Graidd ynghyd â thair Uned opsiynol o fewn cyfnod o ddwy flynedd. Mae tystysgrifau ar gael ar gyfer Unedau unigol.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.