Hafan

Mae’r tîm Pontydd i Waith yma i gefnogi pobl leol i ennill y sgiliau a’r hyder i ddod yn barod am swydd a helpu i ennill cyflogaeth.

Os ydych yn byw ym Merthyr Tudful, heb fod mewn addysg lawn-amser, heb fod yn gweithio neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos, yna bydd Pontydd i Waith yn cynnig cymorth i chi symud yn nes at gyflogaeth.

Gall Pontydd i Waith eich helpu i gael mynediad i gyfleoedd dysgu am ddim i ennill y sgiliau a’r cymwysterau rydych eu hangen i fynd i gyflogaeth. Medrwch hefyd fanteisio o ddatblygiad sgiliau sylfaenol a darpariaeth gofal plant.

Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen Pontydd i Waith ym Merthyr Tudful, bydd angen i chi fod yn:
• 16 oed neu hŷn

• Di-waith neu’n gweithio 16 awr neu lai yr wythnos 

• Yn byw o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd yn ôl i gyflogaeth, neu os cafodd eich swydd ei dileu yn ddiweddar ac yr hoffech ymuno ag un o’n cyrsiau, ffoniwch: 01685 726101 neu e-bost: bridges@merthyr.ac.uk

Hoffech chi lawrlwytho un o’n taflenni islaw?
ELO Hylendid Bwyd Cefnogaeth Bersonol Lletygarwch