Mynediad Diploma yn y Dyniaethau

Lefel: 3

Hyd: Llawn amser – blwyddyn

Mynediad:
Bydd yr holl ddarpar ymgeiswyr yn cael eu cyfweld â’u hasesu cyn dethol.
Mae angen i fyfyrwyr fod yn ymwybodol y byddant yn destun Datgeliad Swyddfa Cofnodion Troseddol Manwl wrth wneud cais i’r brifysgol.
Mae cymhelliad yn ofyniad pwysig iawn ar y cwrs hwn. Rhaid i chi fod yn barod i ddyrannu amser ar gyfer astudio preifat, drwy gydol y cwrs, yn ychwanegol at yr amser yn y coleg.

Mae’n ofyniad bod ymgeiswyr yn meddu ar TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (graddau A* i C) er mwyn addysgu mewn addysg gynradd ac uwchradd. Mae lleoedd ar y ddau gwrs TGAU yn gyfyngedig ac mae angen gwneud cais amdanynt
yn gynnar. Mae’r cwrs yn cwmpasu unedau astudio mewn Bioleg Ddynol, Cymdeithaseg, Seicoleg, Hanes, Llenyddiaeth

Cwrs:
Cyflwynir y cwrs drwy wahanol lwybrau, gan felly alluogi strwythuro’r cwrs i gwrdd ag anghenion unigolion. Mae’r holl lwybrau yn gosod pwyslais cryf ar y sgiliau craidd sy’n annog myfyrwyr i weithio’r annibynnol a datblygu’r sgiliau astudio fydd yn eu galluogi i astudio ar lefel gradd.

Y llwybrau sydd ar gael yw:
• Proffesiynau Iechyd a Gofal
• Dyniaethau
• Ymarfer Dysgu Cychwynnol*
• Astudiaethau Cyfun
• Y gyfraith ( yn amodol ar ddilysu)

Cysylltu â ni:
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu gwblhau ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.