Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Hyfforddi Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol:
Nod y cymhwyster Tystysgrif Lefel 2 hwn mewn Hyfforddi Ffitrwydd yw hyfforddi dysgwyr hyd at safon broffesiynol gymwys, a’u galluogi i ragnodi, cynllunio a chyflawni rhaglenni ymarfer diogel ac effeithiol o fewn amgylchedd campfa neu glwb iechyd fel Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2.
Diddordeb? Dyma sut i Gofrestru:
Dewis 1
Ewch i’n Tudalen We PLA i weld os ydych yn gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). Rhaid i chi fod yn 19 oed neu’n hŷn i wneud cais ac yn ennill o dan £26,000 y flwyddyn. Mae’n ofynnol fod gennych rywfaint o brofiad ymarfer mewn campfa, yn cynnwys pwysau rhydd.
Dewis 2
Gwnewch gais yn uniongyrchol am y cwrs yma, sy’n costio £250 y pen. Mae’n ofynnol fod gennych rywfaint o brofiad ymarfer mewn campfa, yn cynnwys pwysau rhydd, ac yn hŷn na 19 oed.
Nod y cymhwyster hwn yw datblygu dysgwyr sydd â gwybodaeth a sgiliau presennol mewn hyfforddi mewn campfa a fyddai’n dymuno cael gyrfa mewn hyfforddi personol.
Diddordeb? Dyma sut i Gofrestru:
Dewis 1
Ewch i’n Tudalen We PLA i weld os ydych yn gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). Rhaid i chi fod yn 19 oed neu’n hŷn i wneud cais ac yn ennill o dan £26,000 y flwyddyn. Mae’n ofynnol eich bod wedi cwblhau cwrs L2 Hyfforddwr mewn Campfa neu Hyfforddi Ffitrwydd.
Dewis 2
Gwnewch gais yn uniongyrchol am y cwrs yma, sy’n costio £250 y pen. Mae’n ofynnol fod gennych rywfaint o brofiad ymarfer mewn campfa, yn cynnwys pwysau rhydd, ac yn hŷn na 19 oed. Mae’n ofynnol eich bod wedi cwblhau cwrs L2 Hyfforddwr mewn Campfa neu Hyfforddi Ffitrwydd.