Coleg o Gymru yn ceisio pontio'r bwlch sgiliau seiberddiogelwch ym musnesau'r DU.
Mae gan 50% o holl fusnesau’r DU fwlch sgiliau seiberddiogelwch sylfaenol gyda diffyg amcangyfrifedig o 11,200 o bobl i ateb galw’r gweithlu seiber cynyddol. Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad blynyddol ar sgiliau seiberddiogelwch ym marchnad lafur y DU sy’n amlygu galw y gweithlu seiber yn y DU.
Er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg hyn, mae sefydliadau addysgol fel Y Coleg, Merthyr Tudful yn cymryd camau rhagweithiol i ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr ysgol er mwyn rhagori ym maes seiberddiogelwch.
Yn ddiweddar, derbyniodd Coleg Merthyr Tudful wobr GoldCyberFirst. Mae’r wobr fawreddog, a roddwyd gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol GCHQ (Pencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth), yn cydnabod ymrwymiad y coleg i ddarparu mynediad i’w fyfyrwyr at gyrsiau addysg seiber o’r radd flaenaf.
Mae darpariaeth Coleg Merthyr, mewn partneriaeth â Choleg Seiber Cymru, o gyrsiau galwedigaethol Lefel A a Lefel 3 mewn astudiaethau sy’n gysylltiedig â seiber megis TG, Cyfrifiadura a Chyfrifiadureg yn cael eu llunio gan weithwyr proffesiynol y diwydiant gan gynnwys Fujitsu ac Admiral. Mae'r diwydiannau hyn yn chwilio am dalent ifanc y dyfodol i wella eu seiberddiogelwch mewnol.
Trwy gyflwyno modiwlau ar seiberddiogelwch i ysgolion, gall myfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o'r maes, cael cipolwg ar lwybrau gyrfa posibl, a datblygu sgiliau hanfodol o oedran ifanc.
Mae Ben Fowler yn fyfyriwr yn y Coleg sy'n astudio cwrs BTEC Lefel 3 TG Uwch. Trwy'r rhaglen, mae Ben wedi cael mynediad at raglen strwythuredig o weithdai sgiliau, heriau a sesiynau briffio a ddarperir gan weithwyr proffesiynol y diwydiant i'w helpu i ennill y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn cychwyn gyrfa mewn seiberddiogelwch.
Wrth siarad am ei brofiad, dywedodd Ben “mae’r cwrs yn rhoi cyfle gwych i fi ddysgu popeth am seiberddiogelwch, cael dealltwriaeth o’r diwydiant a fy helpu i baratoi ar gyfer gyrfa yn y maes pwysig hwn sy’n tyfu.”
Dywedodd Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful, “Seiber yw technoleg galluogi pwysicaf y sector digidol ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n hysgolion a’n prifysgolion partner i sicrhau bod gennym ni ffyrdd a llwybrau dilyniant priodol i ddarparu profiad a sgiliau i ddysgwyr allu symud ymlaen i yrfa yn y diwydiant cyffrous hwn sy’n datblygu’n gyflym.”
Mae'r Coleg a Choleg Seiber Cymru yn bartner â Phrifysgol De Cymru. Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi’i henwi’n Brifysgol Seiber y Flwyddyn pedair blynedd yn olynol ac mae’n cynnig ystod eang o gyrsiau sy’n ymwneud â seiber, ynghyd ag Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Trwy'r bartneriaeth, bydd myfyrwyr sy'n dymuno astudio gradd sy'n gysylltiedig â seiber yn cael eu cefnogi gan y coleg a Phrifysgol De Cymru wrth iddynt drosglwyddo'n ddidrafferth i addysg uwch. Mae'r brifysgol hefyd yn helpu i wthio myfyrwyr yn y coleg y tu hwnt i'r ffiniau y maent yn teimlo'n gyfforddus oddi mewn iddynt a hynny trwy gynnal diwrnodau her mewn cystadleuaeth â cholegau ledled y wlad.
Yn fwyaf diweddar, cynhaliodd y brifysgol Ddiwrnod Her Admiral a roddodd gyfle i fyfyrwyr â diddordeb mewn seiberddiogelwch brofi eu sgiliau.
Mynychodd partneriaid diwydiant, gan gynnwys Admiral, Thales, Dŵr Cymru, Fujitsu, Bridewell, a Performant, y digwyddiad ar Gampws PDC Casnewydd a roddodd syniad i fyfyrwyr o Goleg Merthyr Tudful, Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr o’r cyfleoedd sydd ar gael yn y sector seiberddiogelwch.
Dywedodd Mike Halliday o Goleg Seiber Cymru: “Mae Coleg Seiber Cymru yn rhaglen o safon fyd-eang sy’n helpu pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed i ddatblygu’r sgiliau seiberddiogelwch sydd eu hangen ar y diwydiant.
“Mae Coleg Seiber Cymru, sy’n cael ei ystyried fel y rhaglen flaenllaw ar gyfer myfyrwyr yr oedran hyn yn y DU, bellach yn cefnogi dros 140 o fyfyrwyr ar draws pedwar coleg, gyda myfyrwyr yn cael eu cefnogi gan bartneriaid i gyflymu a datblygu eu sgiliau seiberddiogelwch er mwyn bod yn barod ar gyfer y byd gwaith ac ehangu sgiliau seiberddiogelwch y genedl.”