Ynglŷn â Ni
Mae’n gyfnod arbennig iawn i astudio yn Y Coleg Merthyr Tudful. Gyda mwy na 2,000 o fyfyrwyr, cyfleusterau newydd sbon o’r radd flaenaf, ystod wych o gyrsiau ac addysgu a chefnogaeth o safon uchel, mae llawer gennym i’w gynnig i’n myfyrwyr, gan sicrhau y byddwch yn elwa i’r eithaf ar eich amser gyda ni.
Mae ein myfyrwyr presennol yn mwynhau eu profiad yn y coleg yn fawr iawn, ac rydym yn siŵr y byddwch chithau yn mwynhau yn yr un modd.
“Mae dysgwyr yn frwd ynghylch eu profiadau yn y coleg, ac yn adnabod y cynnydd yn eu hyder a’u gallu gwell i ymdopi ag ystod ehangach o faterion dysgu a phersonol.” (Estyn 2010)
Yn ogystal â dod i’r coleg i astudio ar safon Uwch, AB neu AU, mae llawer o fanteision eraill hefyd. Bydd eich cyfnod yn y coleg yn eich galluogi i wneud y canlynol:
“Rwy’n credu bydd y coleg newydd yn rhoi mantais i ni drwy bontio’r bwlch rhwng ysgol a phrifysgol”
Angharad Hegarty – Myfyriwr Gwyddoniaeth Safon Uwch