Mae’r rhaglen yn cynnig ystod o weithgareddau cyfoethogi ychwanegol i ehangu gorwelion dysgwyr a rhoi cyfleoedd iddynt fwyafu eu potensial tra’n cyfrannu’n bositif at fywyd y coleg a’r gymuned. Anogir yr holl ddysgwyr i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn ar brynhawn Mercher, yn ystod yr awr ginio ac ar ôl gwersi.
Gall eich amser yn y coleg fod yn brofiad llawn mwynhad a boddhad. Mae’r graddau y byddwch yn mwynhau ac yn cael boddhad ohono yn dibynnu arnoch chi! Bydd cymryd rhan yn ein rhaglen Excel yn eich galluogi i wneud y canlynol:
Gweithgareddau Cyfoethogi sydd ar gael:
Dug Caeredin
Cynigir y cyfle i’r holl fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen Dug Caeredin.
Menter ac Arloesedd
Bydd gan fyfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o fentrau a phrosiectau menter i wella eu sgiliau a’u cyflogadwyedd. Yn 2013-2014 cymerodd dros 200 o fyfyrwyr ran mewn cyflwyniad Dragon’s Den o’u gweithgareddau codi arian i Blant mewn Angen. Roedd hwn yn gyfle ardderchog i’r myfyrwyr gael profiad uniongyrchol o gyflwyno’u syniadau i banel o feirniaid o uwch staff y coleg a’r sêr Sophie Evans a Wyn Evans.