Hyfforddi ac Uwchsgilio
A ydych chi’n chwilio am hyfforddiant cwrs byr neu gymwysterau proffesiynol sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol ar gyfer eich gweithwyr?
Mae gan Y Coleg Merthyr Tudful ystod o wasanaethau ymgysylltu â chyflogwyr sy’n darparu ymgynghori, hyfforddiant ac uwchsgilio, hyrwyddiad a gwasanaethau hyfforddi ledled ystod o feysydd busnes.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:
- Dysgu Seiliedig ar Waith
- Pontydd i Waith
- Sgiliau Gwaith i Oedolion
Am ragor o fanylion ynghylch unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â Jeff Harris, Uwch Reolwr Prosiect – Prosiectau Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 01685 726000.