Gwasanaethau Llyfrgell
Mae gan y coleg Barth Dysgu dynodedig sy’n cynnig mynediad i ystod eang o wasanaethau, cyfleusterau a chymorth i ddysgwyr ar bob lefel.
Mae’r adnoddau yn cynnwys:
- Llyfrau a chyfnodolion print ac electronig
- Canllawiau pwnc print ac electronig
- Cyfleusterau TG, yn cynnwys Wifi am ddim
- Ystafell amlgyfrwng gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol a chyfleusterau chwarae DVD
- Mannau astudio ar gyfer astudio unigol, grŵp ac astudio tawel
- Catalog ar-lein â mynediad cyhoeddus (OPAC) i ddarganfod, cadw a gofyn am eitemau a rheoli benthyca personol
- Mynediad i ystod o sesiynau addysg defnyddwyr i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau
Bydd gan ddysgwyr fynediad hefyd i adnoddau a ddelir yn llyfrgelloedd safleoedd eraill yng ngrŵp Prifysgol De Cymru, drwy’r system geisio rhyng-safleoedd.
Gweithio mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru!
Mae’r coleg yn falch ei fod wedi’i ddewis i weithio mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru (NLW),i hyrwyddo a chynnal deunyddiau Llyfrgell ac Archif Cenedlaethol i fyfyrwyr a chymunedau ar draws rhanbarth Blaenau’r Cymoedd.