CYFLEODD IAITH GYMRAEG
Mae’r Coleg yn cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr sydd am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar sawl lefel – o ddysgu Cymraeg fel ail iaith i TGAU a Lefel A Cymraeg.
Ar hyn o bryd mae’r ddarpariaeth iaith Gymraeg yn cynyddu – mae’r modiwlau a’r cyrsiau a gellir astudio yn ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ehangu bob tymor.
Ni does angen astudio trwy gyfrwng y Gymraeg i fuddio ar wasanaethau cyfrwng Cymraeg y Coleg.
Bydd cyfle i chi:
Gyflwyno gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg
Fynychu sefydliadau cyfrwng Cymraeg ar eich profiad gwaith
Ymarfer sgiliau cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg
Gael cymorth adeiladu CV cyfrwng Cymraeg
Astudio’r Gymraeg fel ail iaith gyda’r nos
Weithio ar eich Sgiliau Allweddol yn Gymraeg
Ddysgu mwy am Gymru a’r Gymraeg gyda’r Fagloriaeth Gymraeg.
Clwb Cymraeg
Am gyfarfod ffrindiau trwy ddefnyddio’ch iaith a threfnu amrywiaeth o weithgareddau? Ymunwch â’r Clwb Cymraeg.
Mae’r Clwb Cymraeg yn cwrdd er mwyn trefnu digwyddiadau iaith Gymraeg a dwyieithog yn y Coleg gan gynnwys Diwrnod Shwmae, Santes Dwynwen, Dydd Gˆwyl Dewi, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol
a llawer mwy!
Dilynwch y Gymraeg yn y Coleg ar Twitter @CymraegCMerthyr
Cysylltiadau
Mae’r Coleg yn cydweithio yn agos gyda:
Canolfan Soar
Cymraeg i Oedolion Morgannwg
Menter Iaith Merthyr
Urdd Gobaith Cymru
Ymarfer eich Cymraeg
Os ydych chi’n dysgu’r Gymraeg fel ail iaith neu am ymarfer eich sgiliau presennol, mae bore goffi anffurfiol bob pythefnos i fyfyrwyr. Cyfle arbennig i siarad Cymraeg dros goffi.
Mathemateg a Gwyddoniaeth
Os ydych chi’n astudio mathemateg neu wyddoniaeth ac wedi cael eich addysg trwy gyfrwng y Gymraeg tan nawr – mae cyfle i chi gael sesiynau er mwyn ystwytho ac ymarfer eich sgiliau trosglwyddo o’r ddwy iaith.
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg
Cymraeg Ail Iaith/ Welsh Second Language
Am fwy o fanylion cwrs, gwelir tudalen 32.
10 ffordd rydyn ni’n cefnogi siaradwyr Cymraeg a myfyrwyr sydd wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y gorffennol:
Cymorth sgiliau astudio cyfrwng Cymraeg yn cynnwys gweithdai, sesiynau unigol, grwpiau bach ac yn y dosbarth
Profiad gwaith a lleoliadau cyfrwng Cymraeg
Cymorth sgiliau astudio pwnc penodol cyn arholiadau e.e. mathemateg a gwyddoniaeth
Gweithgareddau cyfoethogi cyfrwng Cymraeg
Siaradwyr gwadd cyfrwng Cymraeg
Geirfa a rhestrau termau dwyieithog
Ffug gyfweliadau, cymorth adeiladu CV ac ysgrifennu llythyron cais cyfrwng Cymraeg
Staff dwyieithog ar y dderbynfa, Cymorth Myfyrwyr, yn y Man Dysgu ac i’ch tywys drwy’r broses UCAS
Cyfle i ennill eich sgiliau allweddol neu sgiliau hanfodol trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog
Cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol Cymreig.
Ddim yn medru’r Gymraeg eto? Dyma 5 rheswm i ddysgu..
Elwa o ddiwylliant arall sy’n gyfoethog o lenyddiaeth a hanes ar eich stepen ddrws!
Mae bod yn ddwyieithog yn sgil, bydd yn helpu gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu yn y ddwy iaith
Bydd myfyrwyr sy’n gadael yr ysgol wedi astudio’r Gymraeg i lefel TGAU – peidiwch gael eich gadael ar ôl!
Mae bod yn ddwyieithog yn dangos eich bod chi’n cydymdeimlo â diwylliannau a thraddodiadau eraill – sy’n hanfodol os ydych chi am deithio neu weithio mewn gwlad dramor
Breuddwydio am weithio yn y diwydiannau creadigol neu’r sector gyhoeddus? Mae siarad Cymraeg yn sgil ddymunol iawn.
Am fwy o wybodaeth:
Cysylltwch â Nia Brodrick, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y Coleg.
n.brodrick@merthyr.ac.uk
Estyniad 6331 neu edrychwch ar ein gwefan ddwyieithog!