Yn ystyried symud ymlaen at radd addysg uwch? Mae gan y coleg nifer o strwythurau cymorth yn eu lle i’ch helpu a’ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau.
Bydd rhaglen ymsefydlu fanwl ar gael i’r holl fyfyrwyr i’w cefnogi yn ystod eu diwrnod, wythnosau a misoedd cyntaf yn y coleg newydd. Bydd hyn yn cynnwys ymsefydlu o ran yr adeilad a’r cyrsiau, gweithgareddau adeiladu tîm, ffair y glasfyfyrwyr, arweiniad ar ddysgu annibynnol, hunan astudio, rheoli amser ac ati.
Caiff pob myfyrwyr diwtor cwrs personol, fydd yn eich cefnogi wrth bontio i’ch amgylchedd newydd yn y coleg.
Mae rhaglen o diwtorialau wythnosol yn ei lle ar gyfer pob dysgwr llawn amser i fonitro cynnydd academaidd trwy ddefnyddio cynlluniau dysgu electronig.
Mae Cymorth Sgiliau Astudio yn Y Coleg Merthyr Tudful wedi’i leoli ar y llawr cyntaf yn y Parth Dysgu. Mae’r ardal dawel hon yn lleoliad cymorth astudio i staff a myfyrwyr. Mae’n cynnig gwasanaeth i unrhyw fyfyriwr sy’n teimlo bod angen help ychwanegol arnynt gydag unrhyw ran o’u gwaith coleg. Bydd y staff croesawgar a phroffesiynol yn rhoi help unigol i chi ag unrhyw agwedd ar eich astudiaethau.